WQ99678 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/07/2026

A wnaiff y Comisiwn unrhyw newidiadau i'r mesurau diogelwch ar gyfer Aelodau o'r Senedd, neu eu hadolygu, yn dilyn llofruddiaeth Ann Widdecombe yr wythnos diwethaf?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 17/07/2026

Mae diogelwch Aelodau o'r Senedd o'r pwys mwyaf ac, o’r herwydd, caiff ei adolygu'n barhaus, gydag asesiadau risg deinamig yn cael eu cynnal yn barhaus.

Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda phartneriaid ym maes plismona a gwasanaethau diogelwch ledled Cymru a'r DU yn ehangach, gan gynnal cysylltiadau rheolaidd â sefydliadau seneddol eraill. Rydym yn manteisio ar y seilwaith cryf a ddarperir drwy Grŵp Plismona a Diogelwch Cymru Gyfan, sy'n dwyn pob un o bedwar heddlu Cymru ynghyd. Rydym hefyd yn monitro ac yn ymateb i asesiadau o fygythiadau a gyhoeddir gan yr heddlu a'r gwasanaethau diogelwch.

Mae pecyn cynhwysfawr o fesurau diogelwch eisoes ar waith ar gyfer yr Aelodau, gan gynnwys mesurau diogelwch corfforol a fetio sylweddol ar yr ystad, cymorth uniongyrchol ar gyfer diogelwch yn eu cartrefi a’u swyddfeydd etholaethol, larymau panig symudol ar gyfer pob Aelod, a'r cymorth a ddarperir i’r Aelodau gan uned heddlu'r Senedd ac ar lefel genedlaethol drwy Operation Ford.

Rydym yn cydnabod y pryderon cryf sydd wedi’u mynegi yn sgil y digwyddiadau diweddar. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â Seneddau eraill y DU, ac rydym yn cael cyngor gan yr heddlu a'r gwasanaethau diogelwch. Byddwn yn parhau i asesu risgiau'n ddeinamig, adolygu effeithiolrwydd y mesurau sydd ar waith ar hyn o bryd, ac yn ystyried yn weithredol yr opsiynau ar gyfer gwelliannau pellach