Mewn perthynas â hwliadau Adam Price AS, cyfeirnodau 2044214 a 2044218, ar gyfer ymweliad â Boston yn 2023, a wnaiff y Comisiwn gadarnhau a) a gyflwynwyd achos busnes, a b) a darparwyd adroddiad o'r ymweliad yn unol ag adran 5.15 o'r Penderfyniad a oedd mewn grym bryd hynny?
Gall y Comisiwn gadarnhau bod pob Aelod a oedd yn dymuno trefnu teithio rhyngwladol yr oeddent yn bwriadu hawlio amdano o dan y Penderfyniad wedi gwneud cais drwy gyflwyno achos busnes i’w gymeradwyo ymlaen llaw, yn unol â’r trefniadau a oedd mewn grym ar y pryd.
Pan oedd Aelod yn ymgymryd â theithio rhyngwladol, yr Aelod oedd yn gyfrifol am lunio adroddiad ar ôl yr ymweliad. Os na fyddai’r daith yn digwydd, ni fyddai’r gofyniad i gyflwyno adroddiad ar ôl yr ymweliad yn codi.
Mewn perthynas â chyfeirnodau hawlio 2044214 a 2044218, cyflwynwyd achos busnes, ond ni chyflwynwyd adroddiad o’r ymweliad gan na chynhaliwyd yr ymweliad.