WQ99507 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/07/2026

Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i ddathlu a hyrwyddo Diwrnod Sir Fynwy ar 25 Medi, gan gynnwys chwifio ei faner sirol hanesyddol y tu allan i'r Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 16/07/2026

Nid oes gan y Comisiwn unrhyw gynlluniau penodol i nodi Diwrnod Sir Fynwy. Fodd bynnag, drwy ei rhaglen o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu â'r cyhoedd, mae'r Senedd yn chwilio'n rheolaidd am gyfleoedd i gysylltu â chymunedau ledled Cymru ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth o waith y Senedd.

Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, bydd y Comisiwn yn mynd i Ŵyl Fwyd y Fenni ym mis Medi. Mae'r ymweliad hwn yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen digwyddiadau ac allgymorth y Senedd, sydd â’r nod o ymgysylltu â chymunedau ym mhob un o etholaethau’r Senedd ledled Cymru fel rhan o'n rhaglen waith. Mae croeso cynnes hefyd i Aelodau ymgysylltu â swyddogion i ystyried opsiynau ar gyfer gweithgarwch a noddir gan Aelodau i hyrwyddo eu cymunedau.

O ran chwifio baneri, nid oes bwriad i wyro oddi wrth brotocol chwifio baneri'r Senedd sy'n nodi'r achlysuron y mae baneri'n cael eu chwifio ar ystad y Senedd.

Mae'r Comisiwn yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddathlu ac arddangos amrywiaeth cymunedau Cymru drwy ei gweithgareddau ymgysylltu a'i gwaith allgymorth ledled y wlad.