WQ99415 (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/07/2026

A wnaiff y Comisiwn egluro pam mae cynhyrchion mislif i fenywod yn cael eu darparu mewn toiledau dynion ar draws ystad y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 09/07/2026

Mae'r Comisiwn yn darparu cynhyrchion mislif ar draws yr ystad fel rhan o ymrwymiad ehangach i lesiant, urddas a hygyrchedd.  Wrth gymryd y cam hwn, cafodd nifer o ffactorau eu hystyried, gan gynnwys sicrhau mynediad cyffredinol at y cynhyrchion er mwyn mynd i'r afael â 'thlodi mislif' a galluogi unrhyw un i gasglu cynhyrchion ar gyfer cydweithwyr neu ymwelwyr sydd eu hangen yn annisgwyl.

Mae'r Comisiwn hefyd yn ymwybodol y gall cynhyrchion mislif o'r fath fod o gymorth i ddynion sy'n delio â chyflyrau iechyd penodol, gan gynnwys rhai mathau o ganser a/neu anymataliaeth. Dyma pam mae cyfleusterau i waredu cynhyrchion o’r fath yn cael eu darparu yn nhoiledau’r dynion, gan ganiatáu preifatrwydd i unrhyw un sydd angen gwaredu cynhyrchion hylendid neu anymataliaeth personol. 

Er mwyn sicrhau cysondeb a rhwyddineb mynediad, ac yn dilyn trafodaethau ynghylch cynnig a wnaed gan Ochr Undebau Llafur y Comisiwn (TUS), gwnaed y penderfyniad i fabwysiadu dull cyson o ddarparu cynhyrchion mislif ym mhob un o’r toiledau ar draws yr ystad.

Fel rhan o’r penderfyniad, rhoddwyd ystyriaeth i’r ffaith y byddai’r gost flynyddol o ddarparu cynhyrchion mislif ym mhob toiled yn llai na'r gost flynyddol flaenorol o rentu peiriannau gwerthu cynhyrchion mislif yn nhoiledau’r menywod yn unig.

O ran cyfleusterau, mae ystad y Senedd yn cydymffurfio’n llawn, ac wedi cydymffurfio’n llawn bob amser, â dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys a’r canllawiau newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.