A wnaiff y Comisiwn gyhoeddi'r gost hyd yma o gynhyrchu llyfryn Y Farchnad, a'r gyllideb sydd ar waith ar gyfer cynhyrchu rhagor o gopïau?
Cafodd llyfryn Y Farchnad ei gynhyrchu a’i ddosbarthu gan ddefnyddio adnoddau mewnol sy’n bodoli ar hyn o bryd o ran dylunio, staffio ac argraffu. Ni neilltuwyd cyllideb ar wahân ar gyfer gynhyrchu’r llyfryn, ac felly nid oes modd nodi’r costau ar wahân.
Nid oes cyllideb ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer cynhyrchu copïau printiedig pellach, gan nad yw'r Comisiwn yn bwriadu defnyddio copïau printiedig fel y dull arferol o rannu gwybodaeth am gyfleoedd Y Farchnad yn y dyfodol.
Roedd y penderfyniad i roi copi printiedig i’r Aelodau yn ystod tymor cyntaf y Seithfed Senedd yn adlewyrchu’r amgylchiadau penodol a oedd yn bodoli yn sgil yr etholiad. Roedd nifer sylweddol o Aelodau wedi’u hethol am y tro cyntaf, ac nid oeddent wedi recriwtio staff swyddfa i reoli gohebiaeth na nodi cyfleoedd ymgysylltu. Felly, rhoddwyd copïau o’r llyfryn yn nhyllau colomen yr Aelodau er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r cyfleoedd i ymgysylltu â'r 88 o sefydliadau sy’n cymryd rhan yn rhaglen y tymor cyntaf, ac er mwyn sicrhau nad oeddent o dan anfantais o ganlyniad i ddiffyg trefniadau sefydledig o ran cymorth swyddfa.
Wrth i'r rhaglen ddatblygu, mae'r galw ymhlith sefydliadau sy'n dymuno cymryd rhan wedi cynyddu. Felly, o fis Ionawr 2027 ymlaen, bydd Y Farchnad yn cael ei chynnal ddwywaith y mis. Felly mae'r Comisiwn wedi bod yn datblygu dulliau mwy cynaliadwy a chost-effeithiol o hyrwyddo rhaglen ehangach o gyfleoedd ymgysylltu.
O'r ail dymor ymlaen, bydd gweithgarwch cyfathrebu sy'n ymwneud â'r Farchnad yn cael ei gynnal drwy sianeli digidol, gyda chefnogaeth hysbysfyrddau gwell ar loriau 2 a 3, copïau electronig ar dudalennau’r Hwb, a thudalennau gwe pwrpasol yn nodi manylion digwyddiadau sydd ar ddod a’r sefydliadau sy'n cymryd rhan. Gellir cadw nifer gyfyngedig o gopïau printiedig at ddibenion cyfeirio.