WQ99394 (d) Wedi’i gyflwyno ar 30/06/2026

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i'w gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau adeiladau newydd ddarparu ar gyfer ymgorffori 'brics gwenoliaid' er mwyn annog adferiad gwenoliaid ledled Cymru, sydd eisoes wedi'u gweithredu'n llwyddiannus yn yr Alban?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 06/07/2026

Mae Llywodraeth Cymru yn annog ymgorffori brics gwenoliaid mewn datblygiadau adeiladau newydd, lle gallant gyfrannu’n ystyrlon at adferiad natur. Tynnodd llythyr diweddar at yr holl Benaethiaid Cynllunio sylw at gyhoeddi rhestr ddiwygiedig Adran 7 o rywogaethau a chynefinoedd o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (mae rhestr Adran 7 yn gofrestr statudol o rywogaethau a chynefinoedd o bwysigrwydd pennaf at ddibenion cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru).  Yn y llythyr hwn, cynghorwyd Penaethiaid Cynllunio, wrth ystyried cyfleoedd ar gyfer budd net i fioamrywiaeth mewn perthynas â'r rhywogaethau adar newydd ar y rhestr, y byddai'n bwysig sicrhau darpariaeth addas ar gyfer nythu, a allai gynnwys gosod mesurau fel brics gwenoliaid fel rhan o wead adeiladau newydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio'n gadarnhaol gyda phartneriaid awdurdodau lleol a rhanddeiliaid i sicrhau bod y mesurau cywir i gynnal a gwella bioamrywiaeth (i sicrhau budd net i fioamrywiaeth) yn cael eu cyflwyno yn y mannau cywir i adlewyrchu cyd-destun ecolegol y safle.