A yw'r Comisiwn wedi ystyried dylunio system lle gall aelodau'r cyhoedd weld cofnodion pleidleisio Aelodau unigol o'r Senedd?
Cyhoeddir cofnod o'r holl bleidleisiau a gynhelir yn ystod trafodion y Senedd yn unol â'r gofynion a nodir yn y Rheolau Sefydlog a deddfwriaeth. Cyhoeddir cofnod manwl o'r holl bleidleisiau a gynhelir yn nhrafodion y Cyfarfod Llawn a’r pwyllgorau, gan gynnwys manylion am sut y mae pob Aelod wedi pleidleisio, fel rhan o Gofnod y Trafodion. At hynny, mae Crynodeb o Bleidleisiau yn cael ei gyhoeddi ar y wefan gyhoeddus ar gyfer pob Cyfarfod Llawn, fel arfer o fewn 30 munud i ddiwedd pob cyfarfod. Mae hyn yn manylu ar sut y pleidleisiodd pob Aelod a'u hymlyniad gwleidyddol, yn ogystal ag unrhyw bleidleisiau drwy ddirprwy sydd ar waith.
Datblygwyd meddalwedd newydd i reoli’r Cyfarfod Llawn cyn y Seithfed Senedd. Roedd hyn yn cynnwys integreiddio rhaglen bleidleisiau’r Cyfarfod Llawn yn llwyr o ddechrau'r Seithfed Senedd ym mis Mai 2026.
Fel rhan o'r prosiect hwnnw, un o’r meysydd posibl a nodwyd i’w ddatblygu yn y dyfodol oedd cofnod chwiliadwy o bleidleisiau pob Aelod. Yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael, ystyrir cynnwys y gwaith hwn fel rhan o gamau datblygu meddalwedd rheoli y Cyfarfod Llawn a/neu Gofnod y Trafodion yn y dyfodol.