WQ99276 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

A wnaiff y Comisiwn gadarnhau a yw caledwedd ddigidol o dymor blaenorol y Senedd, fel gliniaduron a ffonau, yn cael ei hailbwrpasu a'i hailgylchu, ac os felly, ble?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 08/07/2026

Mae Comisiwn y Senedd yn newid offer TGCh fel gliniaduron, cyfrifiaduron pen desg a dyfeisiau symudol yn unol â chylch oes wedi’i gynllunio, fel arfer ar ôl tua phum mlynedd, a hynny er mwyn sicrhau bod yr offer yn parhau i fod yn addas i’r diben ac yn cydymffurfio â safonau seiberddiogelwch.

Pan ddaw’r defnydd o’r offer i ben, mae'r Comisiwn yn dilyn proses reoledig ac archwiliadwy. Mae'r holl offer TGCh dros ben yn cael ei gasglu a'i brosesu gan gontractwr cymeradwy. Caiff unrhyw ddata a gedwir ar ddyfeisiau eu dileu’n ddiogel gan y contractwr, ac mae tystysgrif yn cael ei darparu i gadarnhau bod y data wedi’u dileu. Cedwir cofnodion gwaredu o fewn y System Rheoli Asedau TGCh.

Ar ôl i’r data gael eu dileu, caiff offer sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes ddefnyddiol, neu offer sydd wedi'i ddifrodi y tu hwnt i’w drwsio, ei ailgylchu yn unol â rheoliadau amgylcheddol. Mewn achosion lle mae dyfeisiau'n parhau i fod yn weithredol ond nad oes eu hangen mwyach ar y Senedd, gellir eu hailddosbarthu'n fewnol neu eu dychwelyd i'w dosbarthu fel rhoddion drwy drefniadau sefydledig gyda sefydliadau elusennol. Mae'r sefydliadau hyn yn dosbarthu offer i amrywiaeth o fuddiolwyr ledled Cymru.

Mae'r dull hwn yn sicrhau bod y Comisiwn:

  • yn cynnal diogelwch data cryf drwy ddileu data mewn modd ardystiedig;
  • yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol ac amgylcheddol, gan gynnwys cydymffurfio â gofynion perthnasol ar gyfer gwastraff a diogelu data;
  • yn cynyddu defnydd a gwerth asedau cyhoeddus i'r eithaf drwy ailddefnyddio dyfeisiau a’u rhoi fel rhoddion lle bo'n briodol;
  • yn darparu llwybr archwilio clir ar gyfer yr holl weithgarwch gwaredu ac ailddefnyddio.

Nid yw'r Comisiwn yn caniatáu gwerthu offer TGCh dros ben i staff nac Aelodau.