A wnaiff y Llywodraeth adolygu'r penderfyniad i atal dros dro y cynlluniau i adleoli swyddfeydd y Llywodraeth i ganol dinal Abertawe, o gofio pwysigrwydd y symud hwn i ffyniant ac iechyd economaidd Abertawe?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad | Wedi'i ateb ar 06/07/2026
Yn rhan o arferion rheoli asedau da, rydym yn adolygu cyfleoedd i wella effeithiolrwydd ein hystâd weinyddol yn rheolaidd. Rydym wedi ymrwymo o hyd i hybu ffyniant economaidd Cymru drwy ein lleoliadau. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â phresenoldeb Llywodraeth Cymru yn Abertawe.