Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog Cabinet ar gyfer nifer yr unedau tai cymdeithasol i'w hadeiladu ym mhob ardal awdurdod lleol?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 03/07/2026
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gosod unrhyw dargedau adeiladu tai yn ôl ardal awdurdod lleol yn y Senedd hon.
Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn glir iawn bod angen i ni gynyddu'r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol ledled Cymru.
Byddaf yn gweithio gydag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac adeiladwyr cartrefi eraill i gefnogi ein huchelgeisiau cyflawni cydfuddiannol.