A wnaiff y Gweinidog Cabinet amlinellu pa gyfarfodydd a gynhaliodd, cyn dyrannu'r arian ychwanegol a ddaeth i Gymru o ganlyniad i fwy o gyllid anghenion dysgu ychwanegol yn Lloegr, gydag a) pobl sy'n cynrychioli plant ag anghenion dysgu ychwanegol, b) fforymau llywodraethwyr, ac c) penaethiaid, neu unrhyw grwpiau sy'n cynrychioli penaethiaid?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Gyllid | Wedi'i ateb ar 06/07/2026
Mater i Weinidogion Cymru yw penderfynu sut i ddyrannu cyllid ychwanegol y mae Cymru'n ei gael o ganlyniad i gyllid yn Lloegr. Mae pob Gweinidog Cabinet yn cael trafodaethau rheolaidd gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol, ac mae hynny’n llywio penderfyniadau cyllidebol ar draws y Cabinet.