WQ99224 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2026

Faint o arian a wariodd y Comisiwn yn ystod y Chweched Senedd ar gyfer rhoi cymhorthdal i ffreutur y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 07/07/2026

Mae'r ddarpariaeth arlwyo yn cael ei hariannu drwy’r gyllideb flynyddol y cytunir arni ar gyfer Comisiwn y Senedd. Mae'r cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod gwasanaeth arlwyo ar gael ar y safle i Aelodau, eu staff cymorth, staff y Comisiwn, ymwelwyr a'r rhai sy'n ymwneud â gwaith y Senedd.

Nid yw’r cyllid ar gyfer darpariaeth arlwyo’r Senedd yn seiliedig ar roi cymhorthdal i leihau prisiau’r bwyd a’r eitemau sydd ar werth, ond yn hytrach ar gost darparu gwasanaethau mewn lleoliadau arlwyo amrywiol.

Y cyfanswm a wariwyd yn ystod y Chweched Senedd ar gefnogi'r ddarpariaeth arlwyo oedd £1.9 miliwn. Mae'r ffigur hwn yn adlewyrchu cost net y gwasanaeth ar ôl incwm a dderbyniwyd drwy werthiannau a mathau eraill o weithgarwch arlwyo.