WQ99223 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2026

Faint o arian y mae'r Comisiwn wedi'i gyllidebu yn ystod y Seithfed Senedd ar gyfer rhoi cymhorthdal i ffreutur y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 07/07/2026

Nid yw’r cyllid ar gyfer darpariaeth arlwyo’r Senedd yn seiliedig ar roi cymhorthdal i leihau prisiau’r bwyd a’r eitemau sydd ar werth, ond yn hytrach ar gost darparu gwasanaethau mewn lleoliadau arlwyo amrywiol.

Darperir y gwasanaethau arlwyo i bawb sy'n defnyddio ein hystad, gan gynnwys yr Aelodau a'u staff, staff y Comisiwn, Gweinidogion a staff Llywodraeth Cymru, aelodau o’r cyhoedd sy’n dod ar ymweliad a chontractwyr sy'n gweithio ar y safle.

Mae’r gyllideb ar gyfer y ddarpariaeth arlwyo, sy’n berthnasol i’r ffreutur yn bennaf, yn cael ei phennu bob blwyddyn fel rhan o gynnig y gyllideb flynyddol y mae'r Senedd yn pleidleisio arno yn ystod y mis Tachwedd cyn y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi.

Ar gyfer 2026-27, y gyllideb ar gyfer 'Arlwyo' yw £453,000.

Nid yw'r gyllideb ar gyfer gweddill y Seithfed Senedd wedi'i phennu eto a bydd prosiect Bae 32 yn dylanwadu'n fawr arni, yn benodol i ba raddau y bydd ffreutur ar gael yn ystod y gwaith adnewyddu a lefel y ddarpariaeth y cytunir arni ar ôl cwblhau’r gwaith.