WQ99206 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i rhoi i sefydlu cofrestr lobïwyr nawr bod y Senedd wedi cefnogi ei sefydlu?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 07/07/2026

Mae’r Comisiwn yn gyfrifol am ddarparu’r eiddo, y staff a’r gwasanaethau sydd eu hangen i alluogi’r Senedd a’i Haelodau i weithredu’n effeithiol. Yn y cyd-destun hwnnw, bydd y Comisiwn yn ystyried unrhyw gynigion neu benderfyniadau sy'n ymwneud â sefydlu neu weinyddu cofrestr lobïo pan fônt yn berthnasol i’w gyfrifoldebau.

Er nad yw cynigion sy’n cael eu pasio yn sgil dadleuon y gwrthbleidiau yn rhwymol, bydd swyddogion yn tynnu sylw'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad at y cynnig y mae’r Senedd wedi ei dderbyn, yn ei rôl fel y Pwyllgor sy’n gyfrifol am ystyried materion sy'n ymwneud ag ymddygiad Aelodau.

Mae sefydlu cofrestr lobïwyr yn fater a drafodwyd gan Bwyllgorau Safonau Ymddygiad mewn Seneddau blaenorol, ac fe'i nodwyd yn adroddiad gwaddol Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Chweched Senedd fel mater y dylai’r Senedd hon fynd ati i’w ystyried ymhellach.  Felly, mae'r Pwyllgor mewn sefyllfa dda i drafod y materion amrywiol y bydd angen mynd i'r afael â nhw er mwyn llunio cynnig manwl, ac i sicrhau bod y Comisiwn yn gallu gwneud darpariaeth ar sail gwybodaeth yn ôl yr angen.

Bydd y Comisiwn yn parhau i ymgysylltu ag unrhyw waith perthnasol a wneir gan y Senedd neu ei phwyllgorau ar y mater hwn yn ystod y Seithfed Senedd.