WQ99188 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2026

Pa brosesau sydd ar waith i fonitro'n rhagweithiol a yw staff cymorth, seilwaith TG, a lwfansau seneddol a ariennir gan y Senedd yn cael eu defnyddio gan Aelodau o'r Senedd i greu cynnwys gwleidyddol rheolaidd ar gyfer cyhoeddiadau cyfryngau masnachol allanol, ac a oes unrhyw gyngor cydymffurfio wedi'i gyhoeddi ynglŷn â cholofn fisol Plaid Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y National?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 08/07/2026

Yr Aelodau eu hunain sy’n bersonol gyfrifol am gydymffurfio â'r Rheolau a Chanllawiau ar ddefnyddio Adnoddau'r Senedd, fel sy'n ofynnol o dan y Cod Ymddygiad, ac mae'r cyfrifoldeb hwnnw'n ymestyn i’r gwaith a wneir gan eu staff.

Yr Aelodau sy’n cyflogi eu staff, a rhaid iddynt sicrhau eu bod nhw eu hunain a'u staff yn gweithredu o fewn y Cod a'r Rheolau.

Mae gwasanaeth TGCh y Comisiwn yn cadw copi wrth gefn o drafodiadau digidol a byddai’n cydymffurfio ag unrhyw ymchwiliad gan ddefnyddio’r cyfleuster adrodd manwl sydd ar gael iddo, os bydd yr Heddlu, y Comisiwn Etholiadol neu’r Comisiynydd Safonau yn gofyn am drywydd archwilio electronig.