WQ99080 (d) Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2026

A wnaiff y Gweinidog sicrhau bod datblygwyr yn mabwysiadu enwau lleol, Cymraeg ar gyfer prosiectau tai a phrosiectau eraill mewn ymgynghoriad ag awdurdodau lleol, Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 26/06/2026

Mae’r cyfrifoldeb am enwi strydoedd a datblygiadau tai yn nwylo awdurdodau lleol, fel arfer yr awdurdod priffyrdd lleol, o fewn y fframwaith deddfwriaethol perthnasol.

Er nad oes gan Weinidogion Cymru rôl uniongyrchol yn y penderfyniadau hyn, ‘da ni’n gweithio efo awdurdodau lleol a phartneriaid i hyrwyddo arferion da, gan gynnwys annog trafodaeth â Phanel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg pan fydd datblygiadau newydd yn cael eu henwi. Mae canllawiau statudol yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio enwau lleoedd hanesyddol fel sail ar gyfer enwi strydoedd newydd neu ddatblygiadau eraill pryd bynnag y bo modd. Wrth ystyried cais gan ddatblygwr am enwi lle newydd, dylai'r awdurdod lleol ymgynghori â'r rhestr o enwau lleoedd hanesyddol. Gall curadur y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol roi cymorth i awdurdodau lleol a datblygwyr.

‘Da ni hefyd yn gweithio i gryfhau'r ffordd ‘da ni’n diogelu enwau lleoedd Cymraeg a hanesyddol lleol yn gyffredinol.