WQ98976 (d) Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2026

Pryd wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r adroddiad a'r argymhelliad dyfarnu tâl gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 16/06/2026

Rwyf wedi derbyn seithfed adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyflogau a lwfansau athrawon ac arweinwyr ac rwy'n ystyried yr holl argymhellion yn ofalus gan gynnwys ar gyflogau. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad ac yn ymgynghori ar ddyfarniad cyflog arfaethedig ar gyfer 2026/27 ar ôl gwyliau'r haf.