Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i gydnabod effaith tlodi ac anghydraddoldeb o fewn cymunedau fel egwyddor sylfaenol yn y fformiwla ariannu llywodraeth leol?
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod effaith tlodi ac anghydraddoldeb o fewn y fformiwla ariannu llywodraeth leol drwy ei dull sefydledig sy'n seiliedig ar anghenion.
Mae'r fformiwla yn dosbarthu cyllid i awdurdodau lleol yn seiliedig ar angen cymharol, gan ddefnyddio dangosyddion, gan gynnwys amddifadedd, poblogaeth a theneurwydd poblogaeth, i adlewyrchu'r costau gwahanol o ran darparu gwasanaethau ledled Cymru. Mae amddifadedd yn elfen graidd o'r fethodoleg, gan helpu i sicrhau bod ardaloedd sy'n wynebu lefelau uwch o anfantais economaidd-gymdeithasol yn derbyn cyfran uwch o gyllid lle ceir tystiolaeth o ran y galw am wasanaethau a chostau.
Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r data a'r dangosyddion sylfaenol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag amddifadedd a theneurwydd poblogaeth, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu adlewyrchiad cywir a chadarn o'r anghenion a'r costau cymharol.
Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo mewn partneriaeth â llywodraeth leol a bydd yn sicrhau bod y fformiwla yn parhau i fod yn dryloyw, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ymateb i batrymau anghenion sy'n newid ar draws cymunedau yng Nghymru.