Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r gost i ysgolion a gynhelir o gaffael gwefannau unigol ar wahân, ac a yw wedi ystyried platfform rheoli cynnwys canolog dwyieithog i leihau dyblygu, sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau hygyrchedd, a chryfhau seiberddiogelwch ar draws ystadau'r ysgolion?
I'w ateb gan: Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg