Pa effaith y mae Cynllun Iechyd 10 Mlynedd GIG Cymru ar gyfer Menywod, a lansiwyd yn 2024, wedi'i chael ar iechyd menywod yng Nghymru?
Mae'r Cynllun Iechyd Menywod yn nodi wyth maes blaenoriaeth, gan gynnwys dros 60 o gamau gweithredu tymor byr, tymor canolig a hirdymor i'w cyflawni dros gyfnod o 10 mlynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf o gyflawni, cwblhawyd y camau gweithredu canlynol:
· Erbyn mis Mawrth 2026, agorwyd Hwb braenaru ar gyfer Iechyd Menywod ym mhob bwrdd iechyd.
· Gwnaed cynnydd o ran uwchsgilio gweithlu'r GIG ym maes iechyd menywod. Ar draws ardal pob bwrdd iechyd, cafodd staff eu hyfforddi mewn meysydd fel y menopos, iechyd rhywiol a gosod dulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor.
· Datblygwyd deunyddiau dysgu i ysgolion er mwyn cefnogi pobl ifanc a nyrsys ysgol i siarad am ystod eang o gyflyrau sy'n effeithio ar fenywod a merched. Gwnaethpwyd hyn mewn cydweithrediad â nyrsys ysgol a phobl ifanc, gan sicrhau bod y deunyddiau yn gweithio iddynt.
· Lansiwyd Ymchwil Iechyd Menywod Cymru – canolfan ymchwil iechyd menywod.
· Llwyddwyd i arloesi drwy'r her iechyd menywod, gan ariannu pedwar prosiect sy'n arddangosiadau byd go iawn o ffyrdd o wella canlyniadau i fenywod a merched.
Datblygodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru hyfforddiant, sy'n hygyrch i holl staff y GIG, am ystod o gyflyrau penodol, gan gynnwys endometriosis, y menopos ac atal cenhedlu.
· Cafodd gwefan newydd wedi'i chydgynhyrchu ar gyfer Iechyd Menywod ei datblygu a'i lansio.
Mae Damcaniaeth Newid ar gyfer y Cynllun Iechyd Menywod yn cael ei datblygu a bydd yn cael ei defnyddio i fonitro'r cynnydd o ran y Cynllun dros y cyfnod o 10 mlynedd.
Roedd sefydlu'r Hybiau braenaru ar gyfer Iechyd Menywod yn gam gweithredu allweddol yn 2025/26. Penderfynwyd ar dri maes blaenoriaeth ar gyfer cam cychwynnol yr hybiau: iechyd mislif, atal cenhedlu a'r menopos. Mae gwerthusiad ffurfiannol o weithredu'r hybiau wedi'i gomisiynu a bydd yr adroddiad yn cael ei lunio'n ddiweddarach eleni. Bydd y gwersi o'r cam gweithredu yn llywio datblygiadau pellach o ran gwasanaethau'r hybiau.
Rwy'n cydnabod pwysigrwydd gwerthuso'r hybiau yn briodol a byddaf yn comisiynu gwaith gwerthuso pellach yn y dyfodol.
Byddaf yn gweithio i gryfhau'r Cynllun Iechyd Menywod a byddwn yn parhau i gyflawni yn erbyn y Cynllun.