A wnaiff y Gweinidog Cabinet ystyried camau i gynyddu cyllid ar gyfer darparu dosbarthiadau cynenedigol yng Ngŵyr Abertawe?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 11/06/2026
Mae’r safonau gofal y dylai menywod ddisgwyl eu derbyn wedi’u nodi yn y Datganiad Ansawdd Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2025.
Mae darparu gwybodaeth a chefnogaeth amserol yn ystod y cyfnod cynenedigol yn hanfodol i helpu teuluoedd i baratoi ar gyfer beichiogrwydd, genedigaeth a’u dyfodol fel rhieni. Mae disgwyl y bydd pob bwrdd iechyd yn darparu cymorth wedi’i deilwra i’r boblogaeth y maen nhw’n ei wasanaethu.