WQ98855 (d) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2026

A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried ymgynghori â Llywodraeth y DU o ran diweddaru safonau golwg ym mhob grŵp, ac nid y rhai dros 70 yn unig, er mwyn atal marwolaethau y gellir eu hosgoi?

Wedi'i ateb gan Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 18/06/2026

Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno profion llygaid gorfodol ar gyfer gyrwyr dros 70 oed, oherwydd y nifer cynyddol o wrthdrawiadau sy’n cynnwys gyrwyr yn y grŵp oedran hwn.

Ar y cyd â Phrif Gynghorydd Optometrig Llywodraeth Cymru, mae swyddogion yn trafod â Llywodraeth y DU i weld beth a ellir ei wneud i ehangu safonau golwg ar gyfer gyrru i grwpiau oedran eraill yn y dyfodol.