Faint oedd cost system cofnodion cleifion electronig Open Eyes i Lywodraeth Cymru, ac a fu cyfrif o sut y gwariwyd yr arian?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 15/06/2026
Ym mlwyddyn ariannol 2022-2023, cafodd £262,561 ei ymrwymo gan Ofal a Gynlluniwyd ar gyfer gofal llygaid digidol. Yn ogystal â hyn, darparodd y Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol £354,125 yn 2022-2023, £588,247 yn 2024-2025 a £661,591 yn 2025-2026. Yn 2025-2026, derbyniodd pob bwrdd iechyd yng Nghymru gyllid i’w gefnogi i roi OpenEyes, y system cofnodion cleifion electronig, a’r system atgyfeirio cleifion electronig a glustnodwyd, ar waith. Mae’r gwariant a’r rhagolygon ariannol yn cael eu monitro drwy’r Bwrdd Cyflawni Digidol, Data a Thechnoleg.