WQ98853 (d) Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd systemau cofnodion cleifion electronig mewn offthalmoleg, gan gynnwys systemau atgyfeirio o ofal sylfaenol, yn unol â'r amserlen a addawyd gan y weinyddiaeth ddiweddaf?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 15/06/2026

Mae’r rhaglen ddigidol genedlaethol i roi system atgyfeirio cleifion electronig ar waith yn awr yn cael ei gweithredu, yn llawn neu’n rhannol, ar draws pob bwrdd iechyd. Bydd y gwaith o’i chyflwyno’n ehangach yn parhau yn 2026-27. Dyma arwydd o’r cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud, er bod hyn ychydig yn hwyrach nag a gynlluniwyd yn gynharach.