Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i gynnwys gofal llygaid mewn un bwrdd iechyd ar gyfer Cymru gyfan er mwyn datrys problemau strwythurol sy'n rhwystro'r gwaith o ddarparu gwasanaethau digonol?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 11/06/2026
Mae’r polisi presennol yn canolbwyntio ar gryfhau strwythurau drwy gyfarwyddyd cenedlaethol, cydweithio rhanbarthol, a rhwydweithiau clinigol.
Mae’r Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg yn cefnogi diwygio sefydliadol a model darparu cynaliadwy ar draws y byrddau iechyd. Y flaenoriaeth yw integreiddio optometreg gofal sylfaenol, trawsnewid llwybrau a dulliau gweithredu rhanbarthol o fynd i’r afael â’r heriau strwythurol ochr yn ochr â gweithrediad wedi’i arwain gan berfformiad.