A wnaiff y Gweinidog Cabinet ystyried cefnogi statws treftadaeth y byd UNESCO ar gyfer Arfordir De Gŵyr i roi hwb i dwristiaeth leol, yn sgil darganfod paentiad ogofâu hynaf Prydain yn ddiweddar mewn ogof yn ne Gŵyr a safleoedd archeolegol a diwylliannol pwysig eraill fel Dynes Goch Paviland?
Rwy’n cydnabod pwysigrwydd archaeolegol a diwylliannol eithriadol Arfordir De Gŵyr. Mae’n ffurfio rhan o un o’r tirweddau mwyaf cyfoethog o ran archaeoleg yng Nghymru, gyda dwsinau o henebion cofrestredig a dros gant o adeiladau rhestredig ar draws Penrhyn Gŵyr, yn adlewyrchu hanes hir ac arwyddocaol o weithgarwch gan bobl.
Mae statws Safle Treftadaeth y Byd yn cael ei gadw ar gyfer lleoedd o Werth Cyffredinol Eithriadol, ac mae’n golygu bodloni meini prawf trylwyr UNESCO. Caiff enwebiadau eu cyflwyno drwy broses ar draws y Deyrnas Unedig, a rhaid iddyn nhw ddangos nid yn unig arwyddocâd rhyngwladol amlwg ond hefyd drefniadau rheoli hirdymor sy’n gadarn ac yn gynaliadwy. Yn dilyn proses gystadleuol agored yn 2022, ar hyn o bryd mae gan y Deyrnas Unedig restr amodol gyflawn o safleoedd i’w henwebu yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo a diogelu amgylchedd hanesyddol Cymru. Byddwn yn dal ati i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod treftadaeth yr ardal yn cael ei chadw, ei deall yn well a’i defnyddio mewn modd cynaliadwy i gefnogi twristiaeth a chymunedau lleol.