Pa ystyriaeth y bydd y Gweinidog Cabinet yn ei rhoi i'r effaith negyddol ar berchnogion busnesau bach yn ardal Gŵyr Abertawe wrth adolygu'r rheol 182 diwrnod ar gyfer lletyau gwyliau?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Gyllid | Wedi'i ateb ar 11/06/2026
Roedd ein maniffesto yn cynnwys ymrwymiad i barhau i adolygu’r trothwy gosod 182 o ddiwrnodau a chreu esemptiadau newydd clir a rhesymol pan na fyddai llety hunanddarpar yn cymhwyso fel cartref preifat. Byddaf yn nodi rhagor o fanylion am ein cynigion maes o law a byddaf yn awyddus i ystyried safbwyntiau’r holl randdeiliaid, gan gynnwys busnesau ac awdurdodau lleol.