A wnaiff y Gweinidog Cabinet amlinellu pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau carthion yn treiddio i ddyfrffyrdd Cymru?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd | Wedi'i ateb ar 12/06/2026
Rydym yn cydweithio’n agos â chwmnïau dŵr, Ofwat a Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â llygredd o ollyngfeydd y rhwydwaith carthffosiaeth a gorlifiant a chreu strategaethau hirdymor a fydd yn pennu ac yn gweithredu Safonau cynaliadwy er mwyn gwella ansawdd dŵr ar draws ein dyfrffyrdd.