WQ98834 (d) Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio caffael, cyllid grant a liferi gwariant cyhoeddus eraill i hyrwyddo amcanion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a chyflawni canlyniadau gwrth-hiliol mesuradwy ledled Cymru?

Wedi'i ateb gan Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb | Wedi'i ateb ar 15/06/2026

Mae disgwyl i sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus hyrwyddo arferion teg a chynhwysol, gan helpu i leihau anghydraddoldebau, gwella atebolrwydd a chyfrannu at Gymru fwy cyfartal, sydd yn ei dro yn helpu i gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae hyn yn cael ei gefnogi drwy amodau ariannu a dyletswyddau cydraddoldeb ehangach sydd wedi cael eu nodi yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.