WQ98833 (d) Wedi’i gyflwyno ar 03/06/2026

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Qatar Airways, Llysgenhadaeth Gwladwriaeth Qatar yn Llundain, Maes Awyr Caerdydd a chynrychiolwyr tramor Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r posibilrwydd o ailddechrau hediadau uniongyrchol rhwng Caerdydd a Doha?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni | Wedi'i ateb ar 12/06/2026

Nid yw Llywodraeth bresennol Cymru wedi cynnal unrhyw drafodaethau ffurfiol gyda Qatar Airways, Llysgenhadaeth Gwladwriaeth Qatar yn Llundain, na Maes Awyr Caerdydd mewn perthynas ag ailddechrau gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a Doha.