Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon ar draws Blaenau Gwent Caerffili Rhymni, ac ar draws Cymru?
Ein nod yw atal sbwriel a thipio anghyfreithlon rhag digwydd yn y lle cyntaf, gan sicrhau bod dull teg 'llygrwr yn talu' yn cael ei ddefnyddio. Rydym am sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am greu'r problemau hyn yn talu'r gost o'i lanhau – nid awdurdodau lleol na'n cymunedau. Er mwyn cyflawni hyn, mae deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno a fydd yn helpu i symud y gadwyn gyflenwi tuag at gynhyrchion haws eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio i atal gwastraff diangen. Er enghraifft, gyda dechrau'r Cynllun Dychwelyd Adnau ym mis Hydref 2027 dylai hyn arwain at ostyngiad mewn cynwysyddion diodydd fel sbwriel.
Er mwyn helpu ein cymunedau, awdurdodau lleol a busnesau i fynd i'r afael â sbwriel yn uniongyrchol, rydym hefyd yn ariannu Cadwch Gymru'n Daclus. Mae ei weithgarwch cymunedol yn etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni yn cynnwys sefydlu canolfannau casglu sbwriel, cefnogi arwyr sbwriel a chydlynu digwyddiadau casglu sbwriel cymunedol. Hefyd, mae ein cyllid ar gyfer rhaglen Taclo Tipio Cymru yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol gymorth gorfodi pwrpasol, cyngor cyfreithiol arbenigol ac offer cadw gwyliadwriaeth. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Sir Blaenau Gwent ill dau wedi derbyn camerâu llwybr newydd i fynd i'r afael â mannau poblogaidd ar gyfer tipio anghyfreithlon yn eu hardal.