Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, drwy awdurdodau lleol a sefydliadau partner, i sicrhau bod plant a theuluoedd sydd mewn perygl o dlodi bwyd yng Ngŵyr Abertawe yn cael cefnogaeth ddigonol yn ystod cyfnod gwyliau haf yr ysgolion yn 2026?
Wedi'i ateb gan Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb | Wedi'i ateb ar 11/06/2026
Yn 2026-27, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £5.85m i gefnogi’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf ‘Bwyd a Hwyl’ ledled Cymru, gan gynnwys yn etholaeth yr Aelod. Mae ‘Bwyd a Hwyl’ yn gynllun yn yr ysgol sy’n darparu prydau iach, addysg bwyd a maeth, gweithgarwch corfforol, a sesiynau cyfoethogi i ddysgwyr mewn ardaloedd dan anfantais economaidd-gymdeithasol.