WQ98816 (d) Wedi’i gyflwyno ar 01/06/2026

Pa gamau y bydd y Gweinidog Cabinet yn eu cymrud i ailnegodi contract deintyddol Cymru er mwyn osgoi'r ffaith bod cymaint o ddeintyddion yn gadael y GIG, sy'n arwain at yr anawsterau a'r costau sy'n gysylltiedig â'r problemau deintyddol y mae pobl yn eu dioddef?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 12/06/2026

Trefniadau contract deintyddol newydd y GIG, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2026, yw’r newid mwyaf sylweddol i ddeintyddiaeth y GIG mewn dau ddegawd. Byddwn yn monitro’r trefniadau newydd yn ofalus iawn i ganfod cyfleoedd i wella’r contract ymhellach er mwyn gwneud deintyddiaeth y GIG yn lle deniadol i weithio ac i wella mynediad i gleifion.

Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau deintyddol, gan gynnwys cyflwyno dyletswydd newydd i fyrddau iechyd asesu anghenion deintyddol lleol a datblygu cynlluniau i sefydlu ysgol ddeintyddol newydd i Gymru i hyfforddi staff y dyfodol.