A wnaiff y Geinidog Cabinet amlinellu ar bolisi'r Llywodraeth o ran annog recriwtio myfyrwyr meddygol o Gymru i swyddi yn y proffesiwn meddygol yng Nghymru a'u cadw mewn rhaglenni hyfforddi yng Nghymru?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddenu a chadw myfyrwyr meddygol a meddygon yng Nghymru, gan gydnabod bod gweithlu cynaliadwy sydd wedi eu hyfforddi'n dda yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau GIG o ansawdd uchel.
Rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn addysg a hyfforddiant meddygol drwy ein trefniadau comisiynu cenedlaethol, gan weithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), prifysgolion, a sefydliadau'r GIG i sicrhau bod y nifer cywir o leoedd hyfforddi ar gael i ddiwallu anghenion y gweithlu presennol ac yn y dyfodol.
Rydym yn cymryd ystod o gamau i annog myfyrwyr meddygol o Gymru i hyfforddi ac aros yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys mentrau a dargedir megis yr ymgyrch HyfforddiGweithioByw, sy'n hyrwyddo gyrfaoedd yn GIG Cymru ac yn cynnig cymhellion i ddenu meddygon teulu dan hyfforddiant i ardaloedd sydd wedi gweld heriau recriwtio’n codi yn y gorffennol.
Ar lefel y DU, rydym yn cefnogi dull gweithredu cyson pedair gwlad ar gyfer hyfforddiant meddygol ôl-raddedig. Bwriad y newidiadau deddfwriaethol diweddar i flaenoriaethu meddygon sydd wedi'u hyfforddi yn y DU ar gyfer lleoedd hyfforddiant sylfaen ac arbenigol yw cryfhau cyfleoedd i'r rheini sydd wedi eu hyfforddi yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfaoedd o fewn system y DU, gan gefnogi cadw a dilyniant ar gyfer GIG Cymru.
Mae cadw hefyd yn cael ei gefnogi trwy bolisïau gweithlu ehangach, gan gynnwys sicrhau gwell mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd datblygu gyrfa, mentrau cadw, a buddsoddiad parhaus mewn addysg a hyfforddiant. Mae'r mesurau hyn wedi'u cynllunio i wella sefydlogrwydd y gweithlu a chreu amgylchedd gwaith mwy cefnogol a chynaliadwy i feddygon ledled Cymru.
Rydym yn cydnabod bod cadw yn gysylltiedig yn agos â chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ôl-raddedig. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru a'r DU i sicrhau bod llwybrau hyfforddi yn parhau i fod yn ddeniadol ac yn hygyrch, a'u bod ar yr un pryd yn alinio ein dull gweithredu â systemau recriwtio sydd ar waith ar draws y DU.