A yw staff diogelwch y Senedd erioed wedi cael cyfarwyddyd i ganiatáu i rywun ddod â chyllyll neu arteffactau eraill i'r safle at ddibenion crefyddol pan fyddent fel arall wedi cael eu gwahardd?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 05/06/2026
Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Nid yw staff diogelwch y Senedd wedi cael cyfarwyddyd i ganiatáu i rywun ddod â chyllyll neu arteffactau eraill sydd wedi’u gwahardd i'r safle at ddibenion crefyddol.