A wnaiff y Comisiwn ystyried ailgyflwyno sianel GB News ar rwydwaith teledu mewnol y Senedd?
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Gellir cael mynediad at ystod eang o sianeli teledu a systemau radio, gan gynnwys GB News, yn fewnol gan ddefnyddio rhwydwaith TG y Senedd ar liniaduron a dyfeisiau eraill a roddwyd gan Gomisiwn y Senedd.
Mae gan y Comisiwn bolisi mai prif ddiben y system deledu fewnol ar ystad y Senedd yw darparu ffrydiau darlledu ar gyfer y Siambr a’r Ystafelloedd Pwyllgora.
O dan y polisi hwn, mae system Chwarae Driphlyg Comisiwn y Senedd yn cynnwys dim ond y sianeli hynny sydd â rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus fel y nodir yn Neddf Cyfathrebu 2003: BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 ac S4C. Cytunodd y Comisiynwyr ar un ychwanegiad at y ddarpariaeth hon, sef cynnwys Sky News fel sianel ychwanegol i sicrhau lluosogrwydd o ran rhaglenni newyddion.
Mae ein holl bolisïau’n destun adolygiad yn achlysurol, a gallem ystyried a ddylid gwneud hynny ar yr adeg briodol.