WQ98703 (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/05/2026

A wnaiff y Comisiwn nodi'r pris a dalwyd am y gliniaduron yn Siambr y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 05/06/2026

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:

Costiodd pob gliniadur Siambr £1,770.86 (gan gynnwys TAW a gwarant rhannau a llafur estynedig 4 blynedd).

Prynwyd cyfanswm o 105 o liniaduron - un i bob Aelod, 6 ar gyfer Desg Flaen y Siambr (safle’r Llywydd a'r Swyddogion) a 3 gliniadur sbâr “Hot-Swap”*.

Cyfanswm y gost - £185,940.30 gan gynnwys TAW

*Mae darnau sbâr Hot-Swap yn cael eu cadw yn barod i'w defnyddio ar unwaith os bydd gliniadur Aelod yn methu yn ystod y trafodion.