A wnaiff y Gweinidog Cabinet ystyried cyfyngu ar ddefnyddio fêps i'r rhai sydd wrthi’n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu drwy eu rhoi ar bresgripsiwn yn unig?
Rwy'n cydnabod bod rhai ysmygwyr yn defnyddio cynhyrchion fepio i'w helpu i roi'r gorau i ysmygu. Fodd bynnag, gan fod llawer o fêps yn cynnwys nicotin, sy'n sylwedd caethiwus iawn, ac oherwydd bod effaith hirdymor defnyddio fêps yn dal i ddod i'r amlwg, nid yw'r cynhyrchion hyn yn gwbl ddi-risg. Rwyf hefyd yn bryderus iawn am y cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n defnyddio fêps yng Nghymru, ac am effaith y cynhyrchion hyn ar eu hiechyd a'u llesiant. Felly, ar hyn o bryd, rwy'n ystyried sut i fynd ati i roi'r mesurau yn Neddf Tybaco a Fêps 2026 ar waith, gan gynnwys y ffyrdd mwyaf priodol o atal cynhyrchion fepio rhag cael eu gwneud yn ddeniadol i bobl ifanc, ond hefyd eu rôl yn ein system rhoi'r gorau i ysmygu, Helpa Fi i Stopio.
Gan fod cael mynediad at gymorth y GIG yn cynyddu siawns ysmygwyr o lwyddo o hyd at 300% o gymharu â cheisio rhoi'r gorau i ysmygu ar eu liwt eu hunain, mae ein gwasanaeth Helpa Fi i Stopio yn cynnig ystod o wasanaethau i ysmygwyr. Mae hyn yn cynnwys cymorth wedi'i deilwra yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys cymorth wedi'i deilwra i'r rhai sy'n gleifion mewnol mewn ysbyty yn ogystal ag yn y gymuned. Mae hefyd yn cynnwys Therapi Disodli Nicotin yn rhad ac am ddim. Mewn perthynas â fepio, er bod nifer y bobl sy'n defnyddio fêps yng Nghymru wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer bellach eisiau help i roi'r gorau iddi. I gefnogi'r unigolion hyn, cafodd Helpa Fi i Stopio ei ehangu yn ddiweddar i gynnwys cymorth i roi'r gorau i fepio. Mae'r cymorth hwn ar gael i bobl ifanc dros 12 oed ac mae'n cynnwys adnoddau ar-lein yn ogystal â gwasanaeth siarad â chynghorydd i gael cymorth.