WQ98644 (d) Wedi’i gyflwyno ar 26/05/2026

O ystyried yr heriau iechyd meddwl sylweddol sy'n wynebu ieuenctid Cymru a wnaiff y Gweinidog Cabinet ystyried gwaharddiad cyfryngau cymdeithasol tebyg i'r un yn Awstralia ar gyfer plant dan 16 oed?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni | Wedi'i ateb ar 10/06/2026

Yn ddiweddar, cwblhaodd Llywodraeth y DU ei hymgynghoriad ar ddefnydd plant o'r cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn ystyried ystod o fesurau posibl gyda'r nod o ddiogelu llesiant pobl ifanc a sicrhau profiadau ar-lein mwy diogel.

Rydym wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc a byddwn yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i wneud hynny. Fodd bynnag, byddai unrhyw waharddiad neu gyfyngiad posibl ar blant dan 16 oed yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn fater a gedwir yn ôl ac felly mae'n benderfyniad i Lywodraeth y DU. Mae'r ymgynghoriad wedi rhoi cyfle i Lywodraeth y DU gasglu tystiolaeth ac rydym yn aros am y canlyniad.

Beth bynnag fydd y newid hwnnw, mae'n rhaid iddo gael ei arwain gan dystiolaeth a dylai arwain at welliannau gwirioneddol i iechyd meddwl a llesiant ein plant a'n pobl ifanc.