WQ98643 (d) Wedi’i gyflwyno ar 26/05/2026

A fydd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn sicrhau nad ydynt â rhan yn nhor-cyfraith ryngwladol Israel, gan gynnwys trwy gefnogi'r alwad dan arweiniad Palesteina am foicot, dadfuddsoddi a sancsiynau, a therfynu pob contract cyhoeddus a chefnogaeth ariannol i gwmnïau ac endidau eraill sydd â rhan yn nhroseddau Israel?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 11/06/2026

Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll mewn undod â phobl Palestina, ac yn parhau yn gadarn yn ein galwadau am ddatrysiad heddychlon a pharhaol rhwng y ddwy wladwriaeth.

Rydym yn hyrwyddo prosesau caffael moesegol a chyfrifol yn y sector cyhoeddus drwy Nodyn Polisi Caffael Cymru 015. Disgwylir i sefydliadau sy’n cael cyllid cyhoeddus ymrwymo i’r Cod Ymarfer ar gyflogaeth foesegol yn ogystal â’r gofynion i gydymffurfio â’r holl gyfreithiau, rheoliadau a chyfarwyddydau swyddogol domestig neu ryngwladol sy’n gymwys.

Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw gorfodi cyfyngiadau, embargos a sancsiynau cyfreithiol ffurfiol.