WQ98641 (d) Wedi’i gyflwyno ar 26/05/2026

Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog Cabinet yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cyllid canlyniadol yn sgil HS2?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Gyllid | Wedi'i ateb ar 03/06/2026

Mae'r Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i godi'r mater o gyllid HS2. Bydd y mater hefyd yn cael ei godi gyda Llywodraeth y DU trwy drafodaethau rhynglywodraethol. Rydym wedi bod yn glir nad yw Cymru'n cael ei chyfran deg, yn enwedig o ystyried dosbarthiad parhaus HS2 fel prosiect "Cymru a Lloegr”.

Mae hyn yn parhau i fod yn fater allweddol yn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU, ac rydym wedi ymrwymo i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud yn iawn am hyn a sicrhau bod Cymru'n cael y cyllid sy'n ddyledus iddi.