A allai'r Gweinidog Cabinet egluro ble mae'r cyfrifoldeb am wasanaethau mamolaeth a materion amenedigol yn eistedd o fewn y strwythur gweinidogol, gan gynnwys cyfrifoldeb am lesiant a chymorth iechyd i dadau a phartneriaid?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 11/06/2026
Y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod sy’n gyfrifol am wasanaethau mamolaeth a materion amenedigol. Does dim gweinidog wedi’i ddynodi i fod yn gyfrifol am lesiant a chymorth iechyd i dadau a phartneriaid. Byddai hyn yn dibynnu ar y cymorth sydd ei angen gan y gallai hyn gael ei ddarparu gan ofal sylfaenol, iechyd meddwl neu wasanaethau iechyd cyhoeddus neu ataliol.