Pa gamau y bydd y Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i archwilio i ba raddau y mae Llais Cymru yn ennyn casineb a rhaniad yn ne-orllewin Cymru, gyda'r bwriad o leihau gweithgarwch niweidiol ar y cyfryngau cymdeithasol?
Mae diogelwch a llesiant pobl yn gyfrifoldeb a rennir ac yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac ar Lywodraeth y DU. Mae gwasanaethau rhyngrwyd a thelathrebu yn faterion a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU. Yng nghyd-destun Deddf Diogelwch Ar-lein 2023, byddwn yn ceisio gweithio gydag Ofcom yn rhinwedd ei swydd fel y rheoleiddwyr diogelwch ar-lein, i fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon a niweidiol ar-lein, gyda’r nod o atal niwed i unigolion.
Yn ein maniffesto rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael addysg gynhwysfawr mewn diogelwch ar-lein a digidol, llythrennedd yn y cyfryngau, a sut mae adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth.
Nod ein gwaith cydlyniant ar draws y De-orllewin (a ledled Cymru) yw meithrin perthynas dda rhwng grwpiau a gwrthsefyll casineb a rhaniad. Mae parch, undod a chwarae teg yn rhai o egwyddorion arweiniol y llywodraeth – yn siapio sut rydym ni’n creu cymunedau unedig sy’n decach ac yn fwy diogel.