WQ98636 (d) Wedi’i gyflwyno ar 21/05/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet gadarnhau pa gymorth fydd ar gael i Adran Offthalmoleg Abertawe i fynd i'r afael â chwymp posibl y rota gofal llygaid brys ar alwad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

Buddiant perthnasol wedi'i ddatgan

Rwy'n offthalmolegydd yn Abertawe
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 10/06/2026

Byrddau Iechyd sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau’r GIG, gan gynnwys rotâu ar alwad, yn ogystal â gwydnwch y gwasanaethau hynny.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda GIG Cymru i gefnogi gwasanaethau pan gaiff risgiau o ran parhad gwasanaethau eu nodi. Mae hyn yn cynnwys hybu gwaith cynllunio’r gweithlu, cydweithio rhanbarthol a gwydnwch gwasanaethau.

Byddwn yn parhau i ymwneud â’r byrddau iechyd i sicrhau darpariaeth gofal brys sy’n ddiogel ac yn effeithiol.