Pa gamau y bydd y Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o Islamoffobia yng Nghymru?
Wedi'i ateb gan Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb | Wedi'i ateb ar 10/06/2026
Fe wnaethom ni ymrwymo yn ein maniffesto i gryfhau trefniadau cyflawni ac effaith y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae hynny’n cynnwys gweithio gyda phobl a chanddynt brofiad bywyd o Islamoffobia a mathau eraill o gasineb a rhagfarn. Rwyf i wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda rhanddeiliaid, ein partneriaid Plismona a Chyngor Mwslimiaid Cymru, er mwyn gwrthsefyll casineb yn erbyn Mwslimiaid.