A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ymyrryd i warantu dyfodol clwb rygbi'r Gweilch?
Wedi'i ateb gan Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 10/06/2026
Mae URC yn sefydliad annibynnol a'u cyfrifoldeb hwy yn llwyr yw penderfyniadau ar ddyfodol y gamp.
Er nad oes gan Weinidogion Cymru unrhyw bwerau i ymyrryd, rydym wedi eiriol bod angen i Undeb Rygbi Cymru sicrhau tryloywder ac atebolrwydd wrth wneud unrhyw benderfyniadau a hefyd ystyried oblygiadau posibl eu penderfyniadau ar y cymunedau y byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn effeithio arnynt.