WQ98633 (d) Wedi’i gyflwyno ar 21/05/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet gadarnhau faint o gleifion yng Nghymru sydd â dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran neofasgwlaidd sy'n aros yn fwy na'r pythefnos a argymhellir gan NICE o atgyfeirio hyd at driniaeth?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 10/06/2026

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw data wedi’u dilysu’n ganolog ynghylch nifer y cleifion sy’n aros yn hirach na’r pythefnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth a argymhellir gan NICE ar gyfer dirywiad maciwlaidd neofasgwlaidd sy’n gysylltiedig ag oedran.

Byrddau iechyd sy’n gyfrifol am reoli’r wybodaeth hon a blaenoriaethu cleifion yn seiliedig ar anghenion clinigol.

Mae gwaith ar y gweill i wella ansawdd data, tryloywder a rheoli perfformiad i hybu mynediad amserol at driniaeth yn unol â chanllawiau clinigol.