Pa gamau y bydd y Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i sicrhau datganoli Ystâd y Goron mewn modd amserol?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad | Wedi'i ateb ar 10/06/2026
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i geisio datganoli Ystad y Goron, am fod angen gwneud hynny er mwyn i Gymru fanteisio i’r eithaf ar ei hadnoddau naturiol. Yn ystod ei alwad gyntaf gyda’r Prif Weinidog yn San Steffan tynnodd y Prif Weinidog sylw at yr angen am ragor o bwerau ar gyfer Llywodraeth Cymru. Byddaf yn amlinellu dull y Llywodraeth ar gyfer yr agenda ddatganoli yn ystod yr wythnosau nesaf.