A yw'r Gweinidog Cabinet yn bwriadu mynd i'r afael â'r rhestr aros gudd lle mae cleifion yn aros blynyddoedd lawer am lawdriniaethau fel trawsblaniad cornbilen, heb gael eu cyfrif yn y ffigyrau rhestr aros swyddogol?
Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG, sef un o Awdurdodau Iechyd Arbennig y DU gyfan, sy’n gyfrifol am roi organau a rheoli’r rhestr aros ar gyfer trawsblaniadau organau ledled y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys gweithredu’r Gofrestr Trawsblannu Genedlaethol a’r Gofrestr Rhoddwyr Organau, ac mae’r trefniadau hyn yn adlewyrchu’r gofyniad clinigol i baru rhoddwyr â derbynwyr yn ôl yr angen ac argaeledd organau. Ar y llaw arall, mae’r GIG yng Nghymru yn gyfrifol am reoli rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth rheolaidd, y cyhoeddir ystadegau swyddogol yn eu cylch gan Lywodraeth Cymru.
Caiff gweithdrefnau trawsblannu eu hunain eu comisiynu ar wahân i ofal rheolaidd. Yng Nghymru, mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn comisiynu gwasanaethau trawsblannu o ganolfannau arbenigol, gan adlewyrchu natur drawsffiniol ac arbenigol iawn y gwasanaethau hyn.
O ganlyniad, nid oes modd cymharu amseroedd aros am driniaethau fel trawsblaniadau cornbilen yn uniongyrchol â rhestrau aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Caiff pobl eu rhestru yn seiliedig ar angen clinigol ac argaeledd meinwe rhoddwyr addas, yn hytrach na’r amser a arhosir.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda llywodraethau eraill y DU i oruchwylio gwaith darparu gwasanaethau Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG ac i hybu gwelliannau o ran canlyniadau pobl sy’n aros am drawsblaniadau. Er bod y galw am drawsblaniadau yn parhau i gynyddu, mae rhaglen waith ar y gweill ledled y DU i wella argaeledd organau a’r defnydd ohonynt.
Yn sgil y cydweithio hwn, rydym yn ceisio cynyddu cyfraddau rhoi organau, gwella effeithlonrwydd llwybrau trawsblannu, a sicrhau bod pobl ledled Cymru, a gweddill y DU, yn gallu manteisio’n deg ac yn amserol ar driniaethau trawsblannu.