A wnaiff y Prif Weinidog ystyried creu rôl Dirprwy Weinidog newydd yn benodol ar gyfer gofal llygaid, yng ngoleuni' heriau unigryw gofal llygaid yng Nghymru, gan gynnwys yr elfen gofal sylfaenol sy'n bresennol yn system gwasanaethau offthalmig cyffredinol Cymru?
Buddiant perthnasol wedi'i ddatgan
Rwy'n offthalmolegydd
Nid oes gennym gynlluniau i greu swydd Weinidogol benodol i fod yn gyfrifol am ofal llygaid. Mae’r cyfrifoldeb dros wasanaethau offthalmig yn rhan annatod o’r portffolio iechyd, ac yn dangos pa mor bwysig ydy integreiddio gofal ar draws y Gwasanaeth Iechyd.
Fel y nododd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal yn ei ddatganiad ar ei flaenoriaethau i’r Senedd ar 2 Mehefin, bydd cynllun y llywodraeth hon i ehangu hybiau llawfeddygol a diagnostig yn creu canolfannau rhagoriaeth ar gyfer arbenigeddau sydd wedi’u hesgeuluso ers amser, fel offthalmoleg er enghraifft, i leihau’r amseroedd aros i gleifion.